Cymraeg | English
Ar y blaen trwy Brydain mewn trydan adnewyddadwy

Croeso i wefan datblygiad fferm wynt Nant y Moch

Gwybodaeth am gynllun Nant y Moch:

"Mae datblygiad fferm wynt Nant y Moch yn cynnig cyfleoedd datblygu newydd i'r ardal".

Eluned Lewis, Swyddog Cyswllt Cymunedol ar gyfer datblygiad fferm wynt Nant y Moch.

SSE Renewables yw adain ynni adnewyddadwy cwmni SSE (Scottish and Southern Energy) ac mae'n gyfrifol am ddatblygu ffermydd gwynt ar fôr a thir, yn ogystal â phrosiectau môr a heidro.

Llwyddodd SSERenewables i ennill Cytundeb Opsiwn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i geisio caniatâd cynllunio i godi fferm wynt ar dir sydd dan reolaeth Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn Nant y Moch - tir sy'n cael ei adnabod dan yr enw SSAD. Mae safle'r fferm wynt arfaethedig i'r dwyrain o ffordd yr A487 rhwng Talybont ac argae Nant y Moch mewn ardal sy'n cynnwys tir Comisiwn Coedwigaeth Cymru a thir pori amaethyddol sydd mewn dwylo preifat.

Mae Ardal Chwilio Arbennig SSAD Nant y Moch yn ddarn o dir a nodwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn un o saith sy'n addas ar gyfer cynhyrchu ynni gwynt ar raddfa fawr (Nodyn Cyngor Technegol TAN 8 - Ynni Adnewyddadwy, a gyhoeddwyd yn 2005). Bydd y prosiectau hyn yn cefnogi agenda y Deyrnas Unedig ym maes newid hinsawdd, yn cyfrannu at dargedau ynni adnewyddadwy Cymru ar gyfer 2010 a 2020 ac yn sicrhau diogelwch ein cyflenwad trydan yn y dyfodol.

 

Ym mis Mehefin 2009 cynhaliwyd nifer o arddangosfeydd gan SSE Renewables o fewn ardal Nant y Moch. I weld y gwybodaeth a ddarparwyd yn yr arddangosfeydd yma, ewch at ein tudalen 'Gwybodaeth' neu cliciwch yma.

 

Gallwch gael hyd i wybodaeth am ein taith brawf (lle byddwn yn profi'r daith a fydd yn cludo cydrannau'r tyrbeini o ddociau Abertawe i ardal Nant y Moch) drwy glicio yma ar ein tudalen ffeithiau.

Eich Cyswllt:

Eluned Lewis
Swyddog Cyswllt Cymunedol
SSE Renewables, Machynlleth

01654 702 720
E-bost Eluned Lewis