Cymraeg | English

Y Broses

Mae datblygiad Fferm Wynt Nant y Moch ar dir a nodwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn ardal strategol ar gyfer cynhyrchu ynni gwynt ar raddfa fawr. Bydd hyn hyn yn cefnogi agenda y Deyrnas Unedig ym maes newid hinsawdd, yn cyfrannu at dargedau ynni adnewyddadwy Cymru ar gyfer 2010 a 2020 ac yn sicrhau diogelwch ein cyflenwad trydan yn y dyfodol. Cafodd yr ardal, sydd hefyd yn cael ei galw yn Ardal Chwilio Arbennig D (SSA D) ei nodi yn Nodyn Cyngor Technegol 8: Ynni Adnewyddadwy, a gyhoeddwyd yn 2005.

Anfonodd SSE Renewables gais tendr at Gomisiwn Coedwigaeth Cymru ym mis Rhagfyr 2006 ar gyfer datblygu cynllun ynni gwynt ar y safle hwn ac, ers hynny, enillodd gytundeb i ddatblygu'r safle. O gynnwys sawl darn o dir preifat o amgylch tir y Comisiwn, gallai hwn gynnig gallu cynhyrchu o gymaint â 140-170 MW, gan ddarparu trydan gwyrdd sy'n cyfateb i'r galw am drydan o 65,000 o gartrefi o leia'.

Dyma linell amser sy'n dangos y prif gamau yn y datblygiad:

Ers ennill y Tendr yn 2008 Y datblygu cynnar - arolygu'r safle, ymgynghori statudol a chymunedol, trafodaethau cynllunio, asesiadau amgylchedd, dylunio'r safle ac yn y blaen.
Mehefin 2009 Cyfres cyntaf o arddangosfeydd cyhoeddus.
Mehefin - Rhagfyr 2009 Gosod cynllun manwl o'r fferm wynt wedi cwblhau'r ymchwil ac asesiadau amgylcheddol. Ymgynghoriadau manwl yn y gymuned, ac yna addasiadau fel bo'r angen yn dilyn yr adborth.
Yn gynnar yn  2010 Cynnig cyn cais cynllunio - rhagor o drafodaethau cymunedol.
Mawrth 2010 - 2011 Cyfnod Gwneud Cais a Phenderfynu: y cais cynllunio. Bydd y cais yn fwy na'r trothwy sydd yn Adran 36 o Ddeddf Drydan 1989 ac felly caiff ei benderfynu gany Comisiwn Cynllunio Isadeiledd arfaethedig yn San Steffan. Yn ystod y broses hon mae'r rhai y mae'n rhaid ymgynghori'n statudol â nhw yn cynnwys awdurdodau lleol - gan gynnwys cynghorau cymuned - a llawer o gyrff eraill perthnasol.
Wedi 2013 Adeiladu: os daw caniatâd cynllunio, bydd ymgynghori trwy gydol y cyfnod adeiladu.
Canol 2017 Y Fferm Wynt yn gweithio'n llawn

Eich Cyswllt:

Eluned Lewis
Swyddog Cyswllt Cymunedol
SSE Renewables, Machynlleth

01654 702 720
E-bost Eluned Lewis