Mynedfa ar gyfer fferm wynt Nant y Moch wedi ei sicrhau yn Nant yr Arian
24 Tachwedd 2010
Mae SSE Renewables wedi cadarnhau cytundeb gyda Comisiwn Coedwigaeth Cymru ar gyfer ffordd mynediad Bwlch Nant yr Arian ar gyfer cerbydau ag arnynt lwythi mawr, sef y tyrbeini, yn ystod cymal adeiladwaith y fferm wynt arfaethedig ar Nant y Moch. Mae’r cytundeb yn ddibynnol ar gael caniatâd cynllunio.
Mae'r cytundeb yn debygol o gael ei groesawu gan y cymunedau cyfagos a fynegodd pryderon am yr amhariad posib ar hyd y llwybr gwreiddiol drwy Ffwrnais a Tal y Bont yn ystod ymarferiad ymgynghori SSE.
Bydd y llwybr mynediad a gytunwyd arni hefyd yn sicrhau mae’r effaith lleiaf posib fydd ar y ganolfan ymwelwyr poblogaidd, a fydd yn parhau ar agor oni bai am gyfnod byr o ychydig wythnosau tra bod y fynedfa i'r safle yn cael ei chwblhau, os caiff y prosiect ganiatâd cynllunio. Yn ystod y cyfnod adeiladu bydd symudiadau’r cerbydau trwm yn cael eu rheoli’n llym i liniaru unrhyw effaith ar brofiad yr ymwelwyr yng Nghanolfan Bwlch Nant yr Arian.
Dywedodd Eluned Lewis, Swyddog Cyswllt Cymunedol SSE Renewables: "Mae cludiant a mynediad wedi bod yn fater allweddol sydd wedi ennyn y pryder mwyaf o fewn y cymunedau lle ‘da ni wedi bod yn gweithio.
"Da ni wedi gwrando'n ofalus ar yr adborth a ddarparwyd yn ystod ein proses ymgynghori ac yn gweithio'n galed i ddatblygu llwybr mynediad sydd yn addas ar gyfer y cynnig am fferm wynt Nant y Moch.
"Bydd yr effaith ar y ganolfan ymwelwyr ym Mwlch Nant yr Arian yn fach iawn, gan mai llwybr mynediad newydd a phwrpasol drwy'r maes parcio presennol yn y ganolfan ymwelwyr sydd wedi ei gynnig ar gyfer y cerbydau mawr. Y tebygolrwydd yw mai 1 neu 2 grŵp o loriau'r dydd fydd yn cludo tuag at y safle.
Yn Nhachwedd 2009 cynhaliwyd prawf o’r daith i gludo’r cyd-rannau o ddociau Abertawe i’r safle gan ddefnyddio lori fawr ag arni lwyth ffug i ddarganfod unrhyw broblemau posib. Ychydig iawn o broblemau a ganfuwyd, dim ond rhai man-addasiadau dros-dro yn angenrheidiol megis symud ‘dodrefn stryd, arwyddion ac ati.
Dywedodd Ruth Jenkins, Rheolwr Rhanbarthol Comisiwn Coedwigaeth Cymru,: "Mae'n bwysig i ni ein bod yn cytuno ar gynnig a fyddai'n gweithio i leihau effeithiau’r loriau trymion ar gymunedau lleol, tra'n sicrhau y gall ymwelwyr barhau i fwynhau'r profiad coedwigol yn y ganolfan ymwelwyr. Rydym wedi bod yn falch o weithio gyda SSE i sicrhau y bydd yr ymyrraeth tymor byr yn llai na’r enillion tymor hir a ddaw o'r cytundeb hwn. Mae CCC (Comisiwn Coedwigaeth Cymru) nawr yn gweithio ar gynlluniau i liniaru’r effaith a gwella profiad yr ymwelwyr ynghyd a chynyddu’r niferoedd sy’n dod atom.
"Yn gysylltiedig â'r cytundeb yma mi fydd SSE yn cyfrannu swm o £800,000 i alluogi ni i wneud nifer o welliannau i’r Ganolfan Ymwelwyr yn Nant yr Arian. Mae rhain yn cynnwys gwelliannau i’r llwybrau beicio mynydd sy’ yma; datblygiadau i ardal chwarae’r plant, creu safleoedd parcio ychwanegol i ymwelwyr, ynghyd â gwelliannau i’r prif adeilad. Rwy’n gobeithio bydd y buddsoddiad yma’n adlewyrchu ein hymrwymiad tymor hir i un o’m canolfannau mwya’ pwysig.
Bydd SSE yn cyflwyno Cais Cynllunio ffurfiol i'r Comisiwn Cynllunio Seilwaith (IPC) i'w gymeradwyo yn fuan.
Dywedodd Madeline Cowley, rheolwr prosiect SSE Renewables: "Rydym yn sylweddoli pwysigrwydd Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian i'r economi leol ac i'r diwydiant twristiaeth. Drwy weithio'n agos â Chomisiwn Coedwigaeth Cymru i nodi nifer o welliannau, rydym yn credu y bydd ein buddsoddiad ychwanegol yn helpu sicrhau llwyddiant tymor hir yr atyniad poblogaidd hwn. "
Mae SSE Renewables yn cynnal digwyddiad lawnsio i roi manylion dyluniad terfynol y fferm wynt ynghyd a chyflwyno manylion y gwaith ymgynghori a wnaed hyd yn hyn, cyn i gais cynllunio gael ei gyflwyno yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Cynhelir y digwyddiad ar: Dydd Llun 29 Tachwedd yn Neuadd Goffa Dal y Bont rhwng 3 a 8yh.
- diwedd -
Nodyn i Olygyddion:
SSE
SSE yw'r cwmni sydd wedi derbyn yr hawliau datblygu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddatblygu fferm wynt 140MW yn Nant y Moch, a elwir hefyd fel SSA D.
Mae Nant y Moch (SSA D) yn ardal o dir a glustnodwyd gan Lywodraeth y Cynulliad fel man strategol ar gyfer cynhyrchu ynni gwynt ar raddfa sylweddol. Mae saith ardal strategol yng Nghymru. Mae hyn er mwyn cefnogi targedau newid hinsawdd y DU, I gyflawni targedau ynni adnewyddadwy Cymru ar gyfer 2010 a 2020, a hefyd i sicrhau diogelwch ein cyflenwad trydan. Nodwyd SSA D yn ‘Nodyn Cyngor Technegol 8 (TAN 8): Ynni Adnewyddadwy’ a gyhoeddwyd yn 2005.
Mae SSE yn un o gwmnïau ynni mwya’ blaenllaw y DU, sy’n ymwneud â chynhyrchu, dosbarthu a chyflenwi trydan, a storio, dosbarthu a chyflenwi nwy. Mae'n cyflenwi ynni i tua naw miliwn o gwsmeriaid ledled y wlad, ac mae’n cael ei gydnabod fel y cyflenwr ynni gorau ar gyfer gwasanaeth cwsmeriaid a hefyd fel cynhyrchwr blaenllaw o drydan o ffynonellau adnewyddadwy yn y DU. Mae'n ymwneud â phrosiectau newydd ym meysydd ynni adnewyddadwy sy'n cwmpasu gwynt, tonnau, llanw a thrydan hydro.
Rhaglen Ynni Gwynt Comisiwn Coedwigaeth Cymru
Mae Rhaglen Ynni Gwynt Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn integreiddio datblygiadau ffermydd gwynt i mewn i reolaeth gynaliadwy Ystadau Coetiroedd Llywodraeth y Cynulliad.
Yn 2005, cyfarwyddwyd Comisiwn Coedwigaeth Cymru gan Weinidogion Llywodraeth y Cynulliad i ganfod cwmnïau a fyddai’n gallu darparu’r arbenigedd angenrheidiol ar gyfer datblygu ffermydd gwynt ar dir a reolwyd gan y comisiwn o fewn terfynau ardaloedd ‘Nodyn Cyngor Technegol 8 (TAN 8).
Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn croesawu’r fraint o weithredu’r rhaglen genedlaethol allweddol hon sy'n anelu at sicrhau dyfodol ynni yng Nghymru.
Cyswllt
Ross Easton
Rheolwr Cyfathrebu
SSE Renewables
0845 0760 530
Monica Boehringer
Rheolwr Cyfathrebu
FCW Wind Energy Programme
01633 580 256